Denali
Gwedd
| Math | mynydd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | William McKinley |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Denali National Park and Preserve |
| Rhan o'r canlynol | Y Saith Pegwn |
| Lleoliad | Denali National Park and Preserve |
| Sir | Denali Borough |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 6,190 metr |
| Cyfesurynnau | 63.069103°N 151.006261°W |
| Amlygrwydd | 6,190 metr |
| Cadwyn fynydd | Alaska Range |
![]() | |
Denali, hefyd Mynydd McKinley (Saesneg: Mount McKinley), yw copa uchaf yr Unol Daleithiau a chopa uchaf Gogledd America. Saif yn Alaska. Ceir tywydd anarferol o oer ar y mynydd, ac mae pum rhewlif sylweddol ar ei lethrau. Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Denali o amgylch y mynydd yn 1980.
Hawliodd y fforiwr Frederick Cook ei fod wedi dringo'r mynydd yn 1906, ond profwyd yn ddiweddarach nad oedd wedi cyrraedd y copa. Yn 1910, dringwyd y mynydd gan bedwar o ddynion lleol, Tom Lloyd, Peter Anderson, Billy Taylor a Charles McGonagall. Cyhaeddasant y Copa Gogleddol, yr isaf o ddau gopa'r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa uchaf yn 1913 gan Walter Harper.
