Keith Chegwin
Gwedd
| Keith Chegwin | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Ionawr 1957 Lerpwl |
| Bu farw | 11 Rhagfyr 2017 o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig Swydd Amwythig |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor teledu |
| Priod | Maggie Philbin |
| Gwefan | https://www.keithchegwin.com |
Actor a chyflwynydd teledu Seisnig oedd Keith Chegwin (17 Ionawr 1957 – 11 Rhagfyr 2017). Cychwynodd fel actor pan yn blentyn a daeth yn un o gyflwynwyr teledu plant mwyaf adnabyddus yr 1980au. Cyflwynodd y rhaglenni teledu Multi-Coloured Swap Shop, Cheggers Plays Pop a Saturday Superstore.[1]
Fe'i ganwyd yn Lerpwl. Brawd y cyflwynydd radio Janice Long oedd ef. Priododd yr actores a chyflwynydd teledu Maggie Philbin ym 1982; ysgarodd 1993. Priododd Maria Fielden yn 2000.
Bu farw yn Rhagfyr 2017 wedi gwaeledd hir yn dioddef o ffibrosis ysgyfeiniol idiopathig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Keith Chegwin wedi marw yn 60 oed , Golwg360, 11 Rhagfyr 2017.